Tystiolaeth Ysgrifenedig ar gyfer 26 Mehefin

Cyfleoedd a gynigir gan y cwricwlwm newydd i ddysgu hanes

1.       Annibynniaeth athrawon. Bydd rhyddid gan athrawon i lunio cyrsiau hyblyg fydd yn unigryw i’r ysgol ac yn cwrdd ag anghenion a diddordebau eu disgyblion, a hynny ar draws pynciau traddodiadol y Dyniaethau, sef Addysg Grefyddol, Daearyddiaeth a Hanes, ond hefyd dau bwnc newydd, sef Astudiaethau Busnes ac Astudiaethau Cymdeithasol.

2.       Perthnasedd. Bydd modd adlewyrchu materion cyfoes yn y cyrsiau hyn, ac i ystyried fel y mae ffactorau crefyddol, daearyddol a hanesyddol yn effeithio ar ei gilydd ac ar fusnes a chymdeithas.

3.       Cynefin. Rhydd y cysyniad o gynefin ffocws a phwrpas  i gyrsiau newydd ysgolion. Dyma gyfle i roi sylfaen gadarn o berthyn i bobl ifanc. Gallai eu cynorthwyo i edrych allan ar y byd o’u cwmpas, a deall sut y cyfrannodd eu cynefin i ddatblygiad Cymru a’r byd ehangach, a sut effeithiodd y byd hwnnw ar Gymru a’u bro eu hun.

4.       Sgiliau. Ceir pwyslais priodol ar sgiliau’r pynciau unigol (megis ymholi, dadansoddi a gwerthuso tystiolaeth), a rhydd strwythur y cwricwlwm newydd gyfleoedd i’w hymarfer ar draws ystod o bynciau, a’u cymhwyso i gyd-destunau newydd.

5.       Yr iaith Gymraeg. Rhydd y cwricwlwm newydd bwysigrwydd i’r iaith Gymraeg, a cheir cyfleoedd ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau i gyfoethogi astudiaeth o’r iaith trwy ei gosod yn ei chyd-destun crefyddol, cymdeithasol, daearyddol a hanesyddol.Gall dysgwyr ystyried y rhesymau dros ei pharhad a thrafod goblygiadau bod yn wlad ddwyieithog/amlieithog heddiw.

Heriau a wynebir wrth weithredu’r cwricwlwm newydd

1.       Ymarferoldeb. Mae’r dogfennau swmpus a gyhoeddwyd yn tystiolaethu i’r gwaith manwl a thrylwyr a wnaed dros y blynyddoedd ers cyhoeddi Dyfodol Llwyddiannus. Ond yn eu swmp a’u manylder maent yn boenus o debyg i ddrafftiau cyntaf y Cwricwlwm Cenedlaethol gwreiddiol ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Profodd y cwricwlwm hwnnw yn rhy anhylaw i’w weithredu, a bu’n rhaid ei symleiddio a’i leihau yn sylweddol ystod y blynyddoedd canlynol.

2.       Tensiwn rhwng rhyddid athrawon a barn y cyhoedd.  Ein tuedd ni  wrth ddysgu yw cadw at yr hyn sy’n gyfarwydd, yn ddiogel ac yn apelio at ein cynulleidfa. Mae gan arholiadau TGAU a TAU ddylanwad ar gynlluniau gwaith yr ysgol uwchradd hefyd. Mae awydd naturiol gan athrawon i ddarparu gwaith a phrofiadau fydd yn cynorthwyo ymgeiswyr i lwyddo yn yr arholiadau hynny. Yn fy marn i, fe fydd angen arweiniad cadarn a chlir ar athrawon wrth iddynt geisio gweithredu’r cwricwlwm newydd. Bydd angen i’r arweiniad egluro  posibiliadau’r cwricwlwm newydd yn hytrach na dangos un ffordd yn unig o ddehongli’r cwricwlwm a’i ddysgu. Ond a fyddai darparu arweiniad o’r math yn tanseilio’r egwyddor o roi annibynniaeth i athrawon lunio eu cyrsiau eu hun?

3.       Anhawsterau presennol. Roedd lle canolog ac amlwg i hanes Cymru yn y Rhaglen Astudio yn yr hen gwricwlwm, ond nid yw strwythur y cwricwlwm drafft  yn rhoi yr un statws iddo. Mae’r feirniadaeth a geir ar ddiffyg hanes Cymru yn ein hysgolion yn adlewyrchu profiadau rhai gafodd eu haddysg trwy gyfrwng y cwricwlwm blaenorol. Os nag oedd hanes Cymru yn cael y sylw sy’n briodol iddo yr adeg honno, pa obaith fydd ganddynt i’r dyfodol?

Pryderon

1.       Prinder tystiolaeth ar gyfer trafodaeth. Mae lle hanes Cymru yn y cwricwlwm ysgol wedi datblygu’n destun trafodaeth cyhoeddus yn ddiweddar, sydd yn rhywbeth cymharol newydd yn fy mhrofiad i. Ond hyd y gwn i does dim arolwg annibynnol wedi ei wneud o’r hyn a ddysgir ers ugain mlynedd o leiaf. O ganlyniad, ymddengys fod y drafodaeth ar hyn o bryd yn cael ei seilio ar brofiadau a safbwyntiau personol unigolion a diddordebau gwahanol fudiadau. O ystyried y teimladau cryf a fynegir ar adegau, a’r agweddau gwleidyddol i’r drafodaeth, mae mawr angen awdit gwrthrychol o’r hanes a ddysgir ar hyn o bryd. Byddai modd defnyddio’r wybodaeth sydd gan Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru o’r opsiynau a ddewisir ar gyfer TGAU a TAU fel man cychwyn. CBAC hefyd oedd yn gyfrifol am arolwg a wnaethpwyd rhwng 2007 -2011 o asesiadau mewnol ysgolion ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3. Bues i’n gweithio gyda thîm o athrawon pwnc i safoni’r gwaith enghreiffftiol a gyflwynwyd ar gyfer hanes. Dwi ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd i’r adroddiadau a baratowyd ar y pryd, ond cofiaf lunio llythyr i’w anfon at yr ysgolion hynny oedd heb gyflwyno unrhyw enghreifftiau o waith ar rai agweddau craidd o’r Rhaglen Astudio, megis hanes Cymru.

2.       Peryglon dadl seiliedig ar brinder tystiolaeth dibynadwy. Mae datblygiad a dylanwad y cyfryngau torfol yn dangos peryglon dadleuon a seilir ar emosiwn a rhagfarn. Ofnaf y gallai’r drafodaeth bresennol fod yn niweidiol i gymdeithas os nag oes tystiolaeth gwrthrychol ar gael i ategu datganiadau.